Telerau ac amodau

Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rydych yn cytuno i’r telerau defnydd hyn. Mae hyn yn cynnwys y polisi preifatrwydd.

Pwy ydym ni

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i reoli gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, (cyfeirir ato fel ‘ni’ o hyn ymlaen).

Dylech wirio’r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Efallai byddwn yn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn a bod y telerau ac amodau wedi newid, ystyrir eich bod wedi cytuno i'r newidiadau hyn.

Gwybodaeth a ddarperir gan y gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth i gefnogi eich hawliad neu'ch cais. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ar achosion unigol.

Dylech ateb y cwestiynau yn y gwasanaeth yn seiliedig ar eich amgylchiadau chi a cheisio cyngor cyfreithiol os oes arnoch angen hynny.

Rhannu a chadw data

Mae ein polisi preifatrwydd yn egluro lle mae’ch data yn cael ei storio a gyda phwy mae’n cael ei rannu. Mae ein polisi cwcis yn egluro sut mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio ac yn storio cwcis.

Deddfau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwn

Bydd y defnydd a wnewch o’r gwasanaeth hwn ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’i ddefnyddio yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
  • Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol

Mae peryglon yn gysylltiedig â defnyddio cyfrifiadur sy'n cael ei rannu (e.e. mewn caffi rhyngrwyd), i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r peryglon hyn ac osgoi defnyddio unrhyw gyfrifiadur lle mae posibilrwydd y gall eraill weld eich gwybodaeth bersonol. Chi sy’n gyfrifol os ydych chi’n dewis gadael cyfrifiadur heb ei ddiogelu tra byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae’n rhaid i chi gymryd gofal eich hunan i sicrhau nad yw’r ffordd yr ydych yn cael mynediad at y gwasanaeth hwn yn eich gadael yn agored i’r perygl o:

  • feirysau
  • cod cyfrifiadur maleisus
  • neu ymyrraeth o fath arall a allai achosi difrod i’ch system gyfrifiadurol eich hunan

Ni ddylech gamddefnyddio ein gwasanaeth drwy gyflwyno’n fwriadol firysau, cnafon (trojans), mwydod (worms), bomiau rhesymeg (logic bombs) neu unrhyw ddeunydd arall maleisus neu niweidiol i dechnoleg.

Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod at y gwasanaeth hwn, y system lle caiff ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig ag o. Ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth a ddosbarthwyd.

Nodi gwybodaeth bersonol sensitif

Mae’r gwasanaeth ar-lein hwn yn cynnwys nifer o feysydd testun rhydd lle fe’ch gwahoddir i nodi gwybodaeth bersonol sensitif.

Os ydych yn rhoi gwybodaeth am eich:

  • credoau crefyddol
  • cyfeiriadedd rhywiol neu’ch bywyd rhywiol
  • tarddiad hiliol neu’ch tarddiad ethnig
  • barnau gwleidyddol
  • credoau crefyddol neu’ch credoau athronyddol
  • aelodaeth undeb lafur
  • data genetig neu ddata biometrig
  • gwybodaeth am eich iechyd

Rydych yn rhoi eich caniatâd inni ddefnyddio’r wybodaeth hon i ymdrin â’ch cais

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn casglu a storio eich data personol, gweler y polisi preifatrwydd.

Ymwrthodiad

Er ein bod yn ymdrechu i gadw gwybodaeth yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau neu sicrwydd y bydd:

  • yn gyfredol
  • yn ddiogel
  • yn gywir
  • yn gyflawn
  • yn rhydd o fygiau neu feirysau

Nid ydym yn cyhoeddi cyngor. Dylech gael cyngor proffesiynol neu gyngor arbenigol cyn gwneud unrhyw beth yn seiliedig ar yr wybodaeth yn y gwasanaeth.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd gan gamweddau sifil (‘tort’, yn cynnwys esgeuluster), torri amodau contract neu fel arall
  • defnyddio’r gwasanaeth hwn, GOV.UK ac unrhyw wefannau sydd â dolenni i neu o’r gwefan
  • methu â defnyddio’r gwasanaeth hwn, GOV.UK ac unrhyw wefannau sydd â dolenni i neu o’r gwefan

Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu’r difrod yn rhagweladwy, wedi codi wrth i’r broses arferol fynd rhagddo, neu os oeddech wedi ein cynghori y gallai ddigwydd.

Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i golli eich:

  • incwm neu refeniw
  • cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfleoedd
  • cynilion a ragwelwyd
  • data
  • ewyllys da neu’ch enw da
  • eiddo diriaethol
  • eiddo anniriaethol, yn cynnwys colled, llygredd neu ddifrod o ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • gwastraff o amser rheolwyr neu amser swyddfa

Efallai y byddwn yn parhau i fod yn atebol am:

  • farwolaeth neu anaf personol sy’n codi o’n hesgeuluster
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan y gyfraith berthnasol

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.