Polisi preifatrwydd
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn egluro pam ein bod yn casglu eich data personol, yr hyn a wnawn ag ef, a'ch hawliau. Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn yn y telerau ac amodau.
Pwy sy'n rheoli'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei reoli gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (GLlTEM) ac rydym yn gyfrifol am ddiogelu'r data personol a ddarperir gennych.
Mae GLlTEM yn asiantaeth weithredol o'r Weinyddiaeth Cyfiawnder (MoJ). MoJ yw'r rheolydd data ac mae ei siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am sut maent yn prosesu data personol.
Pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth hwn byddwn ni (GLlTEM) yn gofyn ichi ddarparu rhywfaint o ddata personol.
Beth yw'r data personol a gasglwn
Mae'r data personol a gasglwn yn cynnwys:
- eich enw, cyfeiriad a'ch manylion cyswllt
- enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich cynrychiolydd - os oes gennych un
- gwybodaeth sy'n dweud wrthym os ydych chi'n agor neges e-bost gennym ni, neu os byddwch yn clicio ar ddolen mewn e-bost
- gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth hwn, fel eich cyfeiriad IP a'r porwr gwe rydych yn ei ddefnyddio. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cwcis.
Beth rydym yn ei wneud gyda'ch data
Rydym yn casglu eich data personol i:
- brosesu eich ymateb
- bodloni gofynion cyfreithiol
- gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth hwn
Caiff eich data personol ei brosesu gan ein staff yn y Deyrnas Unedig a chaiff y data ei storio yn y Deyrnas Unedig.
Byddwn yn anfon copi o'ch ymateb at yr hawlydd ac Acas. Byddwn yn rhannu gwybodaeth ar y ffurflen hon â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) i helpu gyda'u gwaith ymchwil ar dribiwnlysoedd cyflogaeth.
Rydym yn defnyddio Sendgrid i anfon negeseuon e-bost gan ddefnyddio seilwaith rhyngrwyd byd-eang. Ni allwn warantu y bydd negeseuon e-bost yn cael eu cadw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).
Eich hawliau
Gallwch ofyn:
- i weld y data personol sydd gennym amdanoch
- i'r data personol gael ei gywiro
- i'r data personol gael ei ddileu (bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau)
- bod mynediad at y data personol wedi'i gyfyngu (er enghraifft, gallwch ofyn i'ch data gael ei storio'n hirach a pheidio â chael ei ddileu'n awtomatig)
Anfonwch e-bost atom os ydych eisiau gweld yr wybodaeth hon.
Derbyn hysbysiadau
Fel rhan o'ch ymateb, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn a ydych yn dymuno derbyn hysbysiadau gyda diweddariadau. Byddwn yn gofyn am eich enw a’r manylion cyswllt sydd orau gennych.
Gallwch danysgrifio o dderbyn negeseuon testun drwy ddilyn y camau a nodir yn y neges testun. Cysylltwch â ni os ydych eisiau canslo diweddariadau e-bost.
Sut i gwyno
Os ydych eisiau cwyno am sut rydym wedi ymdrin â'ch data personol, anfonwch e-bost atom.
Gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu'n credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith.