Cwcis

Mae gwefan ‘gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth’ yn rhoi ffeiliau bach (a elwir yn cwcis), ar eich cyfrifiadur. Fe'u defnyddir i wella'r wefan.

Defnyddir cwcis i:

  • fesur sut yr ydych yn defnyddio'r wefan fel y gellir ei gwella
  • cofio'r hysbysiadau rydych wedi'u gweld fel nad ydych yn eu gweld eto

Ni ddefnyddir cwcis ar y gwasanaeth ‘gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth’ i’ch adnabod chi’n bersonol.

Dysgwch fwy am sut i reoli cwcis

Sut mae cwcis yn cael eu defnyddio

Cwcis Hanfodol

Mae angen cwcis hanfodol er mwyn i'r gwasanaeth weithio. Nid oes angen inni ofyn am ganiatâd i'w defnyddio

Eich cynnydd pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth

Pan fyddwch yn defnyddio gwefan ‘gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth’, byddwn yn rhoi cwci ar eich cyfrifiadur i gofnodi eich cynnydd. Ni fydd y cwci hwn yn cadw eich data personol a chaiff ei ddileu pan fydd eich sesiwn yn dod i ben.

EnwDibenDaw i ben
_app_sessionBydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei chadw ar y gweinydd am y cyfnod y byddwch yn aros ar y dudalen. Gall hyn fod hyd at 60 munud, gyda'r opsiwn i'w ymestyn am 60 munud arall. Ar ôl i chi lawrlwytho'r PDF wedi'i gwblhau, caiff y data hwn ei ddileu o'n gweinyddion.60 munud (neu pan ddaw eich sesiwn i ben)

Neges yn ymwneud â chwcis

Efallai y byddwch yn gweld baner pan ymwelwch â thribiwnlysoedd cyflogaeth yn eich gwahodd i dderbyn neu wrthod cwcis dewisol. Byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur fel ei fod yn gwybod eich bod wedi'i weld ac nad oes angen ei ddangos eto, a hefyd i storio eich gosodiadau.

EnwDibenDaw i ben
cookie_settingCadw eich gosodiadau caniatau cwcis1 blwyddyn

Cwcis Dadansoddol (dewisol)

Mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth 'gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth'. Mae Google Analytics yn cadw'r wybodaeth ganlynol:

  • y tudalennau y byddwch yn ymweld â nhw
  • yr hyn rydych yn clicio arno
  • faint o amser y byddwch yn ei dreulio ar bob tudalen
  • sut y daethoch i'r wefan (ee trwy ddefnyddio chwilotwr)

Nid ydym yn casglu nac yn cadw'ch gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu'ch cyfeiriad) mewn cwcis, felly ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddi. Mae Google Analytics yn defnyddio'r cwcis canlynol:

EnwDibenDaw i ben
_utmaFaint o ymwelwyr sy'n ymweld â'r wefan2 flynedd
_utmbMae'n gweithio gyda _ utmc i gyfrifo faint o amser rydych yn ei dreulio ar gyfartaledd ar y wefan61 munud
_utmcMae'n gweithio gyda _utmb i fonitro pryd fyddwch yn cau eich porwrpan fyddwch yn cau eich porwr
_utmzMae'n darparu gwybodaeth am sut y daethoch i'r wefan (Er enghraifft o wefan arall neu drwy ddefnyddio chwilotwr)6 mis
_gaRheoli'r defnydd o'r cwcis uchod2 flynedd