Bydd eich adborth yn ein helpu i wella’r gwasanaeth.

Cyflwyniad

Llenwch a chyflwynwch ffurflen ymateb ET3 pan fydd rhywun yn gwneud hawliad tribiwnlys cyflogaeth yn eich erbyn.

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol cyfreithiol neu'n fath arall o weithiwr proffesiynol a dderbyniodd gyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein gan ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.

Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer llenwi'r ffurflen hon

  • rhif eich achos (sydd ar y llythyr a anfonwyd atoch)
  • dyddiadau dechrau a gorffen cyflogaeth yr hawlydd, oriau gwaith a chyfnod rhybudd
  • manylion tâl a buddion yr hawlydd, cyn ac ar ôl treth
  • unrhyw fanylion cymodi cynnar Acas sydd gennych, megis rhif y dystysgrif
  • disgrifiad o'ch ymateb i'r hawliad, gan gynnwys dyddiadau a'r bobl sydd yn rhan ohono
  • manylion eich cynrychiolydd, fel cyfreithiwr, os oes gennych un

Sut i lenwi'r ffurflen

  • ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei harbed os byddwch yn treulio mwy nag 1 awr ar un dudalen
  • gallwch adolygu a golygu eich atebion cyn ichi gyflwyno'r ffurflen
  • gallwch arbed copi PDF o'ch ffurflen ar ôl ichi ei chyflwyno

Deddf Diogelu Data 1998

Byddwn yn anfon copi o'r ffurflen hon at yr hawlydd a'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS). Byddwn yn rhoi'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi inni ar y ffurflen hon ar gyfrifiadur. Mae hyn yn ein helpu i fonitro cynnydd a chynhyrchu ystadegau. Trosglwyddir yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon i'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau i gynorthwyo ymchwil i'r defnydd a wneir o dribiwnlysoedd cyflogaeth ac effeithiolrwydd y tribiwnlysoedd hynny.